Skip to main content

Mae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth yn ein helpu ni i’w wella.English

Yn ôl

Polisi Preifatrwydd ar gyfer y Cwestiynau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro pam rydym yn casglu eich data personol a beth rydym yn ei wneud ag ef. Mae hefyd yn egluro eich hawliau a sut i’w gorfodi.

Pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth hwn

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) sy’n rheoli’r gwasanaeth hwn, sef un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ).

MoJ yw’r rheolydd data at ddibenion diogelu data. Mae siarter gwybodaeth bersonol MoJ yn egluro sut mae’r MoJ yn prosesu data personol.

Fel rhan o’r MoJ, mae GLlTEM yn gyfrifol am benderfynu sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio ac mae’n gyfrifol am ddiogelu’r data personol rydych yn ei ddarparu.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn y telerau ac amodau.

Pam ydym ni’n casglu eich data personol

Rydym ni’n casglu eich data personol i:

  • fodloni gofynion cyfreithiol Deddf Cydraddoldeb 2010
  • gwerthuso ein gwasanaethau i sicrhau eu bod yn trin pobl yn deg
  • gwella’r gwasanaeth hwn

Bydd ein staff dadansoddi yn defnyddio eich data i lunio ystadegau.  Maent yn gweithio yn y DU ac mae eich data yn cael ei storio yn y DU.

Y data personol rydym ni’n casglu

Pan fyddwch chi'n cwblhau'r holiadur rydyn ni'n gofyn amdano:

  • dyddiad geni
  • iaith
  • anableddau
  • rhyw
  • rhywedd
  • rhywioldeb
  • ethnigrwydd
  • crefydd
  • a ydych chi’n feichiog?

Defnyddio eich data

Byddwn yn defnyddio eich data at ddibenion dadansoddol yn unig. Byddwn yn llunio ystadegau a fydd byth yn amlygu cofnod unigolyn. Bydd ystadegau yn helpu GLlTEM i ddeall os yw pobl o wahanol grwpiau yn cael eu trin yn deg ac os oes ganddynt yr un mynediad at ein gwasanaethau.

Byddwn yn defnyddio'r ystadegau i gyfarwyddo newidiadau i bolisïau a dyluniad gwasanaethau sy’n atal gwahaniaethu ac sy’n hyrwyddo tegwch a mynediad cydradd at gyfiawnder i bawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu data am sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth hwn, gan gynnwys:

  • cyfeiriad IP eich cyfrifiadur, eich ffôn neu’ch tabled
  • yr ardal neu’r dref lle rydych yn defnyddio’ch cyfrifiadur, ffôn neu dabled
  • y porwr gwe rydych yn ei ddefnyddio

Storio eich data

Bydd eich data yn cael ei storio’n ofalus ac ar wahân i fanylion eich achos. Bydd wedi’i amgryptio ac ni fydd gan unrhyw staff neu unigolion sy’n rhan o’ch achos fynediad ato.

Cyn ichi gyflwyno eich gwybodaeth

Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi fel atebion i'r cwestiynau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei chadw nes y byddwch yn penderfynu cyflwyno’r cais, yr ymateb neu'r hawliad ar gyfer y gwasanaeth rydych yn ei ddefnyddio. Bydd gwybodaeth sydd wedi cael ei chadw, ond nad ydych yn ei chyflwyno, yn cael ei dileu ar ôl 90 diwrnod.

Ar ôl ichi gyflwyno eich gwybodaeth

Bydd yr wybodaeth y byddwch wedi ei rhoi yn yr holiadur cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei chadw am 50 mlynedd ac yna ei dileu.

Rhannu eich data

Byddwn yn defnyddio eich data i lunio ystadegau cyffredinol a fydd yn cael eu defnyddio gan GLlTEM ac adrannau eraill y llywodraeth. Mae’n bosib y byddwn hefyd yn cyhoeddi ystadegau fel ein bod yn bodloni dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus sydd wedi’u nodi yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwn yn rhannu eich data er mwyn atal neu i ddatrys trosedd.

Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data am sut y defnyddir gwefan. Mae'r data cyffredinol hwn yn cael ei rannu â Google. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn ein telerau ac amodau.

Storio a rhannu eich data’n rhyngwladol

Weithiau efallai y bydd angen inni anfon eich gwybodaeth bersonol tu allan i'r DU. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data.

Eich hawliau

Gallwch ofyn:

  • i gael gweld y data personol amdanoch rydym yn ei gadw
  • i’r data personol gael ei gywiro
  • i’r data personol gael ei symud neu ei ddileu (bydd hyn yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, er enghraifft os ydych chi’n penderfynu peidio â pharhau gyda’ch cais)
  • i gyfyngu ar y mynediad at y data personol (er enghraifft, gallwch ofyn i’r data gael ei storio am gyfnod hirach a pheidio â chael ei ddileu’n awtomatig)

Os ydych eisiau gweld y data personol rydym yn ei gadw amdanoch, gallwch:

  • lenwi ffurflen i wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth. Bydd y cais hwn yn mynd i’r rheolydd data, sef MoJ.
  • ysgrifennu atom yn: Disclosure Team, Post point 10.38, 102 Petty France, Llundain, SW1H 9AJ

Gallwch ofyn i gael mwy o wybodaeth am:

  • gytundebau sydd gennym ar rannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill
  • pryd caniateir inni drosglwyddo gwybodaeth bersonol amdanoch heb roi gwybod ichi
  • ein cyfarwyddiadau i staff ynghylch sut i gasglu, defnyddio neu ddileu eich gwybodaeth bersonol
  • sut rydym yn sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym yn gywir ac yn gyfredol

Gallwch gysylltu â swyddog diogelu data MoJ drwy:

Sut i wneud cwyn

Gweler ein trefn gwyno os ydych eisiau cwyno am sut rydym wedi trin eich data personol.

Ysgrifennwch at: Post Point 10.38, 102 Petty France, Llundain SW1H 9AJ

E-bost: data.compliance@justice.gov.uk

Gallwch hefyd gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anfodlon â’n hymateb neu’n credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn gyfreithlon.