Datganiad hygyrchedd ar gyfer y cwestiynau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth cwestiynau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae’r gwasanaeth hwn yn gofyn set o gwestiynau fydd yn ein helpu i wirio ein bod yn trin pobl yn deg ac yn gyfartal. Mae'n ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i gydraddoldeb (o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM sy’n gyfrifol am y wefan hon. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan, felly rydym wedi ceisio ei gwneud mor hygyrch â phosib. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:
- newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau neu osodiadau’r ddyfais
- gwneud y testun hyd at 400% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml.
Gallwch gael cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Mae’r wefan yn cydymffurfio â WCAG 2.2 AA ac mae hefyd yn defnyddio fersiwn ddiweddaraf System Dylunio GOV.UK. Rydym hefyd wedi profi'r wefan yn fewnol ac yn allanol i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r safonau hygyrchedd diweddaraf.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd. Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, neu braille
Anfonwch neges e-bost i: HMCTSforms@justice.gov.uk
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy’r llinellau cymorth canlynol:
- Gwasanaeth Ysgariad: 0300 303 5171
- Gwasanaeth Profiant: 0300 303 0654
- Apelio i Dribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant: 0300 303 5170
- Os oeddech chi’n apelio i’r gwasanaeth Mewnfudo neu Loches: 0800212368 neu e-bost contactia@justice.gov.uk
- Os oeddech chi'n defnyddio'r gwasanaeth Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru: 03003035176 neu yn Yr Alban: 0300 790 6234
- Os oeddech yn defnyddio’r gwasanaeth cofnodi ple: 0300 303 5172
- Os oeddech yn defnyddio gwasanaeth y Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iawndal am Niwed Troseddol): ffoniwch 0300 790 6234 neu e-bostiwch CIC.enquiries@justice.gov.uk
- Os ydych yn defnyddio’r Swyddfa Wysio Rheithgorau Ganolog: 0300 456 1024 (Saesneg), 0300 303 5173 (Cymraeg), Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm, Dydd Gwener: 9am tan 3pm neu e-bost: jurysummoning@justice.gov.uk
- Os oeddech yn defnyddio’r gwasanaeth trefniadau plant a gwaharddebau teulu: Anfonwch e-bost i: C100applications@justice.gov.uk.
- Os oeddech chi’n defnyddio’r gwasanaeth gwneud Hawliad am Arian: 0300 303 5174 (Cymraeg), 0300 123 7050 (Saesneg), dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30am - 5pm, neu e-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
- Os oeddech chi'n defnyddio'r gwasanaeth mabwysiadu: e-bostiwch: adoptionproject@justice.gov.uk, dydd Llun i ddydd Gwener: 9am tan 5pm.
Gwybodaeth am brisiau galwadau
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd,cysylltwch â ni ar y llinellau cymorth dros y ffôn.
Byddwn yn ystyried eich ceisiadau ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Y Weithdrefn Orfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae GLlTEM wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon wedi’i phrofi ac mae’n cydymffurfio’n llwyr â’r âCanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd?
Mae’r wefan hon yn cael ei phrofi’n barhaus drwy ddefnyddio profion hygyrchedd awtomatig a gwiriadau technoleg gynorthwyol. Bydd unrhyw nodweddion newydd a gyflwynir hefyd yn cael eu profi’n fewnol neu gyda chefnogaeth tîm prawf hygyrchedd mewnol GLlTEF.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 28 Mai 2020. Fe’i ddiweddarwyd ddiwethaf ar 31 Gorffennaf 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 2 Ebrill 2025. Cynhaliwyd yr archwiliad gan dîm profi hygyrchedd mewnol GLlTEF. Roedd y tîm wedi profi yn erbyn ystod o dechnolegau cynorthwyol ac adnoddau profi hygyrchedd.